Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – Busnes Pawb

Llywodraeth Cymru – Adroddiad statws ar argymhellion

Busnes Pawb, adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru, Rhagfyr 2018

 

Diweddariad Mehefin 2023

 

 

Argymhelliad

 

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru Awst 2022

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru Mehefin 2023

1

 

 

Rydym yn argymell y dylid mabwysiadu fframwaith hyfforddiant ar atal hunanladdiad a’i weithredu ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus mewn ffordd debyg i’r fframwaith ar gyfer trais domestig, lle y manylir ar y gofynion o ran hyfforddiant yn dibynnu ar y rôl. Yn benodol, byddai meddygon teulu yn un o’r grwpiau o weithwyr proffesiynol fyddai â gofynion uwch o ran hyfforddiant / sgiliau, ac mae’n bwysig bod ganddynt hwy a staff y practis yr hyder i ofyn y cwestiynau cywir ac ymateb yn dosturiol ac effeithiol wrth ymdrin â chleifion a allai fod mewn perygl o gyflawni hunanladdiad. Credwn y dylai’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol fwrw ymlaen â hyn fel un o’r blaenoriaethau pennaf, yn enwedig o gofio bod fframwaith hyfforddiant eisoes wedi’i ddatblygu ac yn cael ei lansio yn Lloegr

Mae'r gwaith sy'n ymwneud â hyfforddiant cyffredinol ar atal hunanladdiad yn parhau i ddatblygu

 

Mae llwyfan digidol wrthi'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a fydd yn darparu ‘hwb hyfforddiant hunanladdiad a hunan-niwed i Gymru’ er mwyn helpu gweithwyr rheng flaen i ymdrin â marchnad sy'n llawn cynhyrchion a rhaglenni hyfforddi mewn ffordd wybodus. Bydd hefyd yn darparu dolenni cyflym i fideos hyfforddiant ar-lein ac adnoddau e-ddysgu sydd ar gael am ddim ledled y DU

 

Mae fframweithiau hyfforddi ar gael hefyd ar Hwb ACE YMWYBODOL, ac mae un arall wrthi'n cael ei ddatblygu drwy Straen Trawmatig Cymru.

 

Mae'n bosibl y bydd yr hwb hyfforddiant digidol yn amlygu bylchau yn y ddarpariaeth hyfforddiant, wrth i bobl geisio dod o hyd i gynhyrchion sy'n addas ar gyfer eu hanghenion datblygu penodol. Mae'r Cydgysylltydd Cenedlaethol yn cydgysylltu ag AGORED ac Addysg Oedolion Cymru er mwyn ystyried datblygu unedau penodol (canlyniadau cwricwlaidd a deilliannau dysgu) ac o bosibl gymhwyster cenedlaethol.

 

 

Rydym bellach wedi lansio HWB digidol Croeso i Hwb Hyfforddiant Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru (sshp.cymru) er mwyn helpu gweithwyr o bob sector i gael gafael ar ddeunyddiau hyfforddi a datblygu am ddim ac i'w prynu sy'n ymwneud ag atal hunanladdiad a hunan-niwed.

 

Byddwn bellach yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r hwb digidol a nodi bylchau yn yr hyfforddiant sydd ar gael.

 

Caiff y dull gweithredu mewn perthynas â hyfforddiant i bob grŵp yn y dyfodol ei nodi fel rhan o gynlluniau olynol Beth am Siarad â Fi a Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau.

2

 

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o hyrwyddo deunyddiau sydd eisoes yn bodoli, megis yr adnodd hyfforddi “See. Say. Signpost.” fel rhan o ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a sefydlu’r neges bod hunanladdiad yn fusnes i bawb ac y gall ddigwydd mewn unrhyw gymuned ar unrhyw adeg.

Yn ogystal â'r diweddariad a roddwyd ym mis Chwefror 2021, gweler y diweddariad i'r argymhelliad blaenorol.

 

Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o drefn ‘busnes fel arfer’ a chaiff gweithgareddau pellach eu cynnwys fel rhan o'r diweddariadau rheolaidd i Gydgysylltwyr Cenedlaethol sydd ar gael i randdeiliaid. Byddwn hefyd yn parhau i drafod y ffordd orau o godi ymwybyddiaeth drwy waith y Grŵp Trawslywodraethol ar Atal Hunanladdiad a thrwy raglen waith y Cydgysylltydd Cenedlaethol ar Hunanladdiad a Hunan-niwed.

 

 

Ers cyhoeddi Busnes Pawb, penodwyd prif swyddogion newydd i'r asiantaethau arweiniol (Y Samariaid, MIND, PAPYRUS), ac rydym yn parhau i weithio gyda nhw ar y negeseuon allweddol a threfniadau ymgysylltu, ac mae pob un ohonynt yn rhan o'r Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed.

 

Yn fwy diweddar, mae'r Samariaid wedi recriwtio gweithiwr ymgysylltu cymunedol sydd bellach yn mynychu'r tri fforwm rhanbarthol sy'n hwyluso'r trefniadau cydweithio hyn ar lefel ranbarthol.

 

Mae'r tîm cydgysylltu wedi creu cod QR er mwyn helpu timau lleol a gweithwyr rheng flaen i ddarparu dolen i fersiwn 2016 o Cymorth wrth Law Cymru ar Dewis Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Lanlwythwyd y ddogfen hefyd i'r platfform digidol Tudalennau Cymorth wrth Law – GIG SSHP.  Bydd hyn yn golygu y gellir diweddaru'r wybodaeth yn gyson, ac yn gwella hygyrchedd ar draws gwahanol grwpiau.

 

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau.

 

5

 

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar fyrder i sicrhau bod pob meddyg teulu yng Nghymru yn ymwybodol o ganllawiau’r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghylch rhannu gwybodaeth a’r datganiad consensws a gytunwyd gan Adran Iechyd y DU, y Colegau Brenhinol a phartneriaid eraill. Rydym yn cefnogi’r ymgyrch gan Papyrus i annog prif weithredwyr cyrff y GIG i roi sicrwydd y byddant yn cefnogi staff sy’n gwneud penderfyniad ar sail budd pennaf i dorri cyfrinachedd claf er mwyn amddiffyn bywyd

Mae NICE yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ganllawiau newydd ar hunan-niwed. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru ar benderfyniadau am hawliau cyfrinachedd wrth gefnogi cleifion yr ystyrir eu bod yn wynebu risg o hunanladdiad neu hunan-niwed ar ôl cyhoeddi canllawiau NICE yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn.

 

 

 

 

 

Cyhoeddwyd canllawiau NICE ar hunan-niwed ar 7 Medi 2022:  Trosolwg | asesu a rheoli hunan-niwed a'i atal rhag ailddigwydd | Canllawiau | NICE. Mae swyddogion wedi cyhoeddi Cylchlythyr Iechyd Cymru yn ddiweddar er mwyn tynnu sylw at y canllawiau a chodi ymwybyddiaeth ohonynt ym mhob rhan o'r GIG, gan gynnwys gofal sylfaenol.

Hefyd yn ddiweddar, cyhoeddodd swyddogion Gylchlythyr Iechyd Cymru ar ddatgelu gwybodaeth yn ymwneud â hawliau cyfrinachedd.

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau.

 

6

 

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol. Dylai hyn fod yn gysylltiedig â “Cymru Iachach”, a rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod ei chynlluniau ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi'r un flaenoriaeth i iechyd meddwl a lles meddyliol ag y maent yn ei rhoi i iechyd corfforol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod adnoddau priodol yn cael eu dyrannu, a bod canlyniadau cleifion, o ran iechyd meddwl gwell, yn cael eu mesur ac yr adroddir arnynt. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol, rhaid iddi ystyried a fyddai cyflwyno targedau ystyrlon yn sicrhau bod byrddau iechyd yn rhoi ffocws digonol ar wella gwasanaethau iechyd meddwl a phrofiad cleifion o ofal

Mae sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn rhan greiddiol o strategaethau iechyd yng Nghymru ac mae'r Rhaglen Lywodraethu yn gwneud ymrwymiad i barhau i flaenoriaethu buddsoddiadau mewn iechyd meddwl. Ar y sail hon, mae'r elfen hon o'r argymhelliad wedi'i chwblhau.

 

O ran mesurau canlyniadau ar gyfer iechyd meddwl, dechreuodd hyfforddiant ac adnoddau i gynnwys y defnydd o fesurau canlyniadau a phrofiad wedi'u hadrodd gan gleifion ym mhob tîm iechyd meddwl ym mis Mehefin 2021 a bydd y gwaith hwn yn parhau i gael ei gefnogi tan fis Mawrth 2023.

 

Mae'r gwaith hwn bellach yn cael ei weithredu drwy'r Bwrdd Data a Mesurau Canlyniadau Iechyd Meddwl sy'n adrodd i Fwrdd Goruchwylio Gweinidogol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

Mae cynrychiolwyr o fwy na 80% o'r timau iechyd meddwl ac anableddau dysgu yng Nghymru bellach wedi cael hyfforddiant ar sut i gynnwys canlyniadau mesurau canlyniadau a phrofiadau y rhoddir gwybod amdanynt gan gleifion fel rhan o'u hymarfer o ddydd i ddydd. Datblygwyd adnoddau sylweddol i ategu'r gwaith ar ganlyniadau ac maent oll ar gael ar y Mesurau Canlyniadau.  

 

Bu'r adborth ar yr hyfforddiant yn gadarnhaol iawn, ond bu effaith y pandemig ar y gallu i droi hyfforddiant yn ymarfer cyson yn amrywiol. O ganlyniad, rydym yn ymestyn y prosiect am flwyddyn arall er mwyn rhoi cymorth ychwanegol i fyrddau iechyd. Mae galluogi defnyddwyr gwasanaethau i ddisgrifio beth sy'n bwysig iddynt, i bennu nodau a dyheadau yn allweddol er mwyn darparu gofal effeithiol, diogel a thosturiol.

 

Mae'r gwaith hwn yn cael ei weithredu o hyd drwy'r Bwrdd Data a Mesurau Canlyniadau Iechyd Meddwl sy'n adrodd i Fwrdd Goruchwylio Gweinidogol Law yn Llaw at Iechyd Meddwl.

 

8

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu model brysbennu Cymru gyfan a fyddai’n golygu bod nyrsys seiciatrig cymunedol wedi’u lleoli yn ystafelloedd rheoli’r heddlu. Credwn y dylid gwneud y gwaith hwn yn unol â’r amserlen chwe mis a nodir yn adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cadernid Meddwl (argymhelliad 15 yn yr adroddiad hwnnw):

 

▪ Bod Llywodraeth Cymru, o fewn chwe mis i ddyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn, mewn perthynas â gofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau:

▪ yn gweithio gyda heddluoedd Cymru i ystyried model brysbennu ar gyfer Cymru gyfan a fyddai’n sicrhau bod ymarferwyr iechyd meddwl ar gael yn ystafelloedd rheoli’r heddlu i roi cyngor pan fydd plant a phobl ifanc (a grwpiau oedran eraill, os yn briodol) yn wynebu argyfwng;

▪ yn amlinellu sut y gellid cyfeirio adnoddau at alluogi timau argyfwng ym mhob bwrdd iechyd i ddarparu hyfforddiant a rhaeadru arbenigedd i wasanaethau rheng flaen eraill, yn enwedig cydweithwyr mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, mewn ardaloedd ar y gororau (i wella cysylltiadau trawsffiniol â’r canolfannau hynny a ddefnyddir amlaf gan gleifion sy’n byw yng Nghymru), ac mewn ysgolion (i wneud sgyrsiau am hunanladdiad a hunan-niwed yn benodol yn fater o drefn);

▪ yn sicrhau bod y byrddau iechyd yn darparu cymorth dilynol ar ôl rhyddhau, yn darparu gwybodaeth am sut mae’r byrddau iechyd yn monitro’r ddarpariaeth hon, ac yn ymrwymo i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd er mwyn bod yn dryloyw ac yn atebol; yn sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn cydymffurfio â’r gofyniad i gadw gwelyau dynodedig y gellid eu staffio’n ddigonol ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed mewn argyfwng, sy’n nodi sut y bydd hyn yn cael ei fonitro a sut y bydd adroddiad yn cael ei lunio amdano yn y dyfodol, a pha gamau a gymerir os na fydd gwelyau o’r fath ar gael;

▪ yn gweithredu’n gyflym ac mewn ffordd unffurf ar draws y byrddau iechyd i gynnig un pwynt mynediad at wasanaethau arbenigol, er mwyn sicrhau mynediad amserol a phriodol i gymorth, boed yn gymorth brys neu’n gymorth arall; ac

▪ yn myfyrio ar ganlyniadau’r adolygiad o ofal argyfwng, yn amlinellu beth yn fwy sydd angen ei wneud i ddarparu gwasanaeth gofal argyfwng 24/7 diogel a chost-effeithiol ym mhob rhan o Gymru, sut y gwneir hynny, ac erbyn pryd.

Fel y nodwyd yn flaenorol, gwnaethom ymrwymo £6miliwn i wella gwasanaethau argyfwng yn 2021/22 ac rydym yn gwneud cynnydd da wrth gyflwyno mynediad 24/7 i gymorth iechyd meddwl brys drwy 111. Mae'r pandemig wedi effeithio ar ein bwriad i roi'r camau hyn ar waith erbyn mis Ebrill ac mae byrddau iechyd yn wynebu heriau o hyd wrth recriwtio aelodau allweddol o staff. Mae byrddau iechyd wedi cyrraedd gwahanol gamau gweithredu ac rydym yn anelu at sicrhau darpariaeth 24/7 ledled Cymru erbyn diwedd y flwyddyn – gyda rhai byrddau iechyd ar y trywydd cywir i gynnig y gwasanaeth cyn yr haf. Pan fydd yn gwbl weithredol, bydd y gwasanaeth yn darparu llinell uniongyrchol i swyddogion yr heddlu ei ffonio i ofyn am gyngor. Mae byrddau iechyd yn gweithio'n lleol gyda heddluoedd lle mae modelau brysbennu eisoes ar waith.

 

Mae parhau i drawsnewid gwasanaethau argyfwng yn flaenoriaeth ar gyfer y cyllid iechyd meddwl ychwanegol rydym wedi'i sicrhau ar gyfer 2022/23. Caiff y cyllid ei ddefnyddio i gefnogi'r gwelliannau a argymhellwyd gan Uned Gyflawni'r GIG yn dilyn ei hadolygiad o ofal argyfwng. Cyflwynodd y byrddau iechyd eu cynlluniau ar gyfer y cyllid hwn ddiwedd mis Mai ac mae swyddogion wrthi'n ystyried y cynigion.

 

Rydym hefyd yn parhau â chynllun peilot ar gyfer gwasanaeth cludo cleifion iechyd meddwl gyda St John Cymru. Mae'r cynllun peilot hwn wedi cael adborth cadarnhaol gan randdeiliaid, yn enwedig gan Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy a'r Heddlu. Mae cynlluniau ar waith i gyflwyno'r gwasanaeth ar ôl y cyfnod peilot llwyddiannus.

 

Comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Uned Gomisiynu Gydweithredol Genedlaethol (NCCU) i gynnal adolygiad o'r defnydd o welyau dynodedig yn 2021. Mae'r NCCU ac Uned Gyflawni'r GIG wrthi bellach yn diweddaru canllawiau i sicrhau y caiff data eu cofnodi'n fwy rheolaidd er mwyn helpu i wneud gwelliannau.

 

Cyhoeddwyd Canllawiau ar ddarparu gwasanaethau seiciatreg gyswllt yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2021. Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar swyddogaethau Gwasanaethau Seiciatreg Gyswllt yng Nghymru. Fe'i datblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru a chafodd pob grŵp proffesiynol ei gynrychioli. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i'r ystod oedran gyfan ac er y bydd angen gwahaniaethu o bosibl, ni ddylai unrhyw ystod oedran dderbyn gwasanaethau o ansawdd is. Gofynnwyd am sylwadau gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ac adlewyrchir y sylwadau hynny yn y ddogfen hon. Mae'n cynnwys wyth safon er mwyn sicrhau mynediad cyfartal i Wasanaethau Seiciatreg Gyswllt yng Nghymru a darpariaeth gyfartal ac mae'n adlewyrchu safonau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a safonau cyrff proffesiynol. Bydd casglu gwybodaeth mewn perthynas â'r safonau yn helpu byrddau iechyd i ddatblygu darlun clir o'r galw am wasanaethau, faint o bobl sy'n eu defnyddio a'r trefniadau ar gyfer eu cyflwyno. Disgwylir y bydd gwybodaeth ansoddol a meintiol ar gael wrth i'r gwasanaethau ddatblygu ac aeddfedu. Dylai'r broses o archwilio gwybodaeth am y Gwasanaethau Seiciatreg Gyswllt alluogi byrddau iechyd i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth am ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol. Mae'r Gwasanaethau Seiciatreg Gyswllt hefyd yn flaenoriaeth o fewn y cyllid gwella gwasanaethau eleni.

Mae'r broses o gyflwyno'r opsiwn Dewis 2 ar gyfer Iechyd Meddwl Brys fel rhan o'r gwasanaeth 111 yn parhau ac mae chwe bwrdd iechyd wedi rhoi'r gwasanaeth hwn ar waith ac yn ei weithredu 24/7. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi rhoi’r gwasanaeth ar waith ac yn gweithio tuag at ei weithredu 24/7 erbyn mis Mehefin.

 

Bydd y gwasanaeth hefyd yn darparu llinell gyswllt y gall gweithwyr proffesiynol ei ffonio os bydd angen cyngor a chymorth arnynt mewn perthynas ag unigolyn y maent yn poeni amdano. Croesawyd y gwasanaeth hwn gan nifer o grwpiau sy'n ei ddefnyddio'n barod, er enghraifft yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol.

9

 

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau ar fyrder i ganfod i ba raddau y mae’r rhai a ryddhawyd o ofal fel cleifion mewnol yn cael gofal dilynol ar hyn o bryd o fewn yr amserlen darged ac y dylai roi diweddariad i’r Pwyllgor o fewn tri mis. Dylai hyn gynnwys camau i sicrhau bod systemau TG yn gallu nodi a yw hyn yn digwydd

Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo o hyd drwy waith y Bwrdd Data a Mesurau Canlyniadau Iechyd Meddwl.

 

Dosbarthwyd y set ddata graidd iechyd meddwl ddrafft i fyrddau iechyd er mwyn iddynt brofi ei heffaith a deall pa elfennau sydd eisoes yn cael eu cofnodi gan fyrddau iechyd a pha elfennau y byddai angen eu hychwanegu. Mae hyn wedi helpu i nodi unrhyw elfennau a fyddai'n anodd i'w cofnodi. Mae Cydweithrediaeth y GIG bellach wedi derbyn yr adroddiad ar y profion effaith hyn.  Cyflwynwyd y data craidd i Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru ym mis Gorffennaf fel rhan o'r broses gymeradwyo.

 

Ynghyd â'r hyfforddiant canlyniadau y cyfeiriwyd ato yn argymhelliad 6, mae Prifysgol De Cymru wedi cael ei chomisiynu i weithio gyda byrddau iechyd a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu mesurau canlyniadau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Disgwylir yr adroddiad ar y gwaith mapio cychwynnol erbyn Haf 2022.

Er mwyn ategu'r gwaith hwn ymhellach, sefydlwyd Grŵp Technegol ac mae'r grŵp hwn yn adrodd i'r Bwrdd Canlyniadau a Mesurau Iechyd Meddwl. Mae'r grŵp yn cynnwys arweinwyr digidol/perfformiad byrddau iechyd ac mae'n canolbwyntio ar drefniadau ymarferol casglu a rhannu data.

 

Rydym yn cydnabod bod sefydlu set ddata lawn yn gymhleth ac rydym yn blaenoriaethu eitemau data penodol ar bob cam i sicrhau bod unrhyw ddata a gesglir yn gadarn ac yn addas at y diben, gyda’r ffocws cychwynnol ar ddata atgyfeirio a derbyn. Byddwn hefyd yn blaenoriaethu data demograffig, fel oed, rhyw ac ethnigrwydd a fydd yn cefnogi ein gallu i gynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar anghenion a gofynion ein poblogaeth.

 

Rydym yn deall yr angen i sicrhau bod data ar gael yn gyhoeddus cyn gynted â phosibl ac rydym yn gweithio tuag at sicrhau bod dangosfwrdd cenedlaethol cychwynnol ar weithgarwch iechyd meddwl ar gael erbyn mis Medi. Yna byddwn yn ehangu’r data sydd ar gael fesul cam wrth i’r set ddata graidd ddatblygu. Erbyn mis Rhagfyr byddwn hefyd yn casglu set o fesurau profiad cleifion y cytunwyd arno yn genedlaethol.

 

Mae'r gwaith hwn wedi'i lywio gan waith a gomisiynwyd gan Brifysgol De Cymru a oedd yn anelu at ddeall beth sy'n bwysig i bobl mewn perthynas â chanlyniadau gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r ffrwd waith hon yn gysylltiedig ar hyn o bryd â rhaglenni eraill y GIG a fydd yn arwain at gyhoeddi canlyniadau iechyd meddwl cenedlaethol ac mae cydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth Nyrsio yn helpu i ddatblygu mesurau profiadau.

 

Fel rhan o lythyr cylch gwaith Gweithrediaeth y GIG, rydym wedi cadarnhau y bydd y Weithrediaeth yn rhoi rhaglen ddiogelwch genedlaethol ar waith ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd yn canolbwyntio i ddechrau ar leoliadau i gleifion mewnol a bydd yn cynnwys y trefniadau ar gyfer rhyddhau cleifion.

10

 

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno proses chwemisol i fonitro ac adrodd ar y targed yn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl – Cynllun Cyflawni sy’n nodi y bydd yr holl gleifion sy’n cael eu rhyddhau o ofal fel cleifion mewnol yn cael gofal dilynol o fewn yr amserlen benodedig

11

 

 

Rydym yn argymell, yng ngoleuni’r dystiolaeth bod y perygl o hunanladdiad ar ei uchaf ar y trydydd diwrnod ar ôl rhyddhau pobl o ofal, y dylai’r targed o ran trefnu apwyntiad dilynol cyntaf i gleifion mewnol a ryddhawyd o ofal iechyd meddwl gael ei newid er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal dilynol o fewn 48 awr

12

 

 

Rydym yn argymell y dylid cyflwyno targed ar gyfer amseroedd aros am therapïau seicolegol i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen yn cael y cymorth hwn o fewn amserlen briodol. Mae mynediad cynnar at therapi priodol yn gallu darparu’r ymyrraeth y mae ei hangen ac atal yr angen i rywun gael gofal argyfwng yn nes ymlaen

Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gyhoeddi data amseroedd aros ar gyfer therapïau seicolegol arbenigol ond bu oedi o ran ymgymryd â'r gwaith hwn yn ystod y pandemig.

 

Er nad yw'r data yn ddigon cadarn i'w cyhoeddi eto, caiff data gweithredol eu cyflwyno gan bob bwrdd iechyd ac fe'u defnyddir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwasanaethau yn atebol. Comisiynwyd Uned Gyflawni'r GIG i gynnal adolygiad o therapïau seicolegol er mwyn deall y cysondeb a'r amrywiadau rhwng gwasanaethau a threfniadau cyflwyno data rhwng byrddau iechyd.

Dim ond un elfen o'r trefniadau mynediad ar gyfer therapïau seicolegol a adlewyrchir gan y data amseroedd aros a gyhoeddir – y gwasanaethau arbenigol. Caiff data eu cyhoeddi eisoes ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol, sy'n cynnwys therapïau seicolegol ac rydym wedi atgyfnerthu cymorth lefel isel, er enghraifft drwy gyflwyno Therapi Gwybyddol Ymddygiadol ar-lein – math arall o therapi seicolegol.

 

Bydd y gwaith i ddatblygu'r set ddata graidd iechyd meddwl yn sicrhau ein bod yn gallu adlewyrchu darlun mwy cyflawn o'r ddarpariaeth ledled Cymru.

 

Rydym yn gweithio gydag AaGIC a Gwelliant Cymru i barhau i ddatblygu'r seilwaith i helpu byrddau iechyd i wella mynediad i therapïau seicolegol. Bydd y gwaith hwn yn sicrhau bod proses gadarn gennym ar gyfer ystyried sail tystiolaeth yr ymyriadau sy'n sail i Fatrics Cymru a'r Matrics Plant.

 

Cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu'r Matrics Plant ym mis Medi 2021. Cynlluniwyd y cynllun hwn er mwyn helpu i roi'r Matrics Plant: Canllawiau ar gyfer Darparu Ymyriadau Seicolegol i Blant a Phobl Ifanc yng Nghymru ar waith.  Rhagwelir y bydd yn helpu byrddau iechyd a phartneriaid i sicrhau y caiff ysbryd a manylion y Matrics Plant eu rhoi ar waith.

Rydym yn parhau i ddefnyddio'r data gweithredol a gyflwynir gan bob bwrdd iechyd i sicrhau bod gwasanaethau yn atebol drwy gyfarfodydd Gwella, Ansawdd, Perfformiad a Chyflawni misol.

 

Disgwylir i adolygiad Uned Gyflawni'r GIG o therapïau seicolegol gael ei gwblhau ym mis Mai a byddwn yn defnyddio'r gwaith hwn i lywio'r broses o gyhoeddi'r data wedi hynny. Bydd y gwaith hwn hefyd yn llywio'r gwaith o ddatblygu'r set ddata graidd iechyd meddwl a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu adlewyrchu darlun mwy cyflawn o'r ddarpariaeth ledled Cymru.

 

Cafodd y diwygiad cyntaf o'r Tablau tystiolaeth a gyhoeddwyd yn 2021 i sicrhau bod ymyriadau seicolegol yn ddiogel ac yn effeithiol ei ddiwygio ymhellach a rhagwelir y caiff ail ddiwygiad ei gyhoeddi erbyn gwanwyn 2023. Cafodd canllawiau ar gyfer gwella mynediad i ymyriadau seicolegol i bobl o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac i wella effeithiolrwydd yr ymyriadau hynny, eu comisiynu a chânt eu cyhoeddi yn ystod gwanwyn/haf 2023.

 

Mae adolygiad o'r dystiolaeth ar gyfer dulliau gweithredu seicolegol wedi'u hanelu at leihau anawsterau rheoleiddio emosiynol ymhlith oedolion a phlant sy'n cael cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl hefyd yn mynd rhagddo.

 

Rydym yn parhau i weithio gydag AaGIC i ddatblygu'r seilwaith ar gyfer therapïau seicolegol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ariannu swydd arweinydd proffesiynol i hyrwyddo'r gwaith hwn. Rhagwelir y bydd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon yn digwydd yn fuan.

 

 

13

 

 

 

 

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr alwad a wnaed yn yr adolygiad canol cyfnod o Beth am Siarad â Fi i ddatblygu a gweithredu strategaeth ôl-ymyrraeth Cymru gyfan ar gyfer hunanladdiad, ac y dylai’r gwaith hwn gael ei ddatblygu fel un o’r blaenoriaethau pennaf. Dylai hyn gynnwys manylion cymorth dilynol i unigolion sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, ac mewn lleoliadau sefydliadol. Dylai gynnwys yr argymhelliad yn Cadernid Meddwl y dylid rhoi canllawiau i’r holl ysgolion ynghylch siarad am hunanladdiad (ac, fel blaenoriaeth, i ysgolion lle bu achos o hunanladdiad neu amheuaeth o hunanladdiad). Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod digon o adnoddau wedi’u clustnodi i weithredu’r strategaeth ôl-ymyrraeth hon.

Ar sail y ddealltwriaeth a feithriniwyd o'r ymarfer gwrando a gynhaliwyd yn 2020/21 gyda'r rheini a oedd yn byw mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, mae grŵp gorchwyl a gorffen amlasiantaethol wedi bod yn cyfarfod i lunio canllawiau ar gyfer ymateb Cymru gyfan i'r rheini sy'n dod i gysylltiad â marwolaeth sydyn a allai fod yn hunanladdiad posibl, y rheini yr effeithir arnynt gan achos o'r fath neu sy'n wynebu profedigaeth o ganlyniad (byddai ymateb cyflym yn golygu cyn cwest). Cynhwyswyd staff corffdai, swyddfeydd crwneriaid, trefnwyr angladdau, gofal sylfaenol, asiantaethau cymorth profedigaeth yn dilyn hunanladdiad, gwasanaethau golau glas a gwasanaethau achub.

 

Bydd y System Gwyliadwriaeth Amser Real yn darparu gwybodaeth er mwyn helpu gwasanaethau i sicrhau y caiff y rheini sy'n wynebu profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad gynnig cymorth amserol a phriodol.

 

Mae canllawiau drafft yn destun adolygiad ehangach ar hyn o bryd. Un o argymhellion allweddol y gwaith hwn yw y dylid darparu Gwasanaeth Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer Profedigaethau er mwyn cynnig cymorth rhagweithiol ar ôl hunanladdiad posibl. Mae swyddogion yn ystyried opsiynau ar gyfer datblygu neu gomisiynu'r cymorth hwn.

 

Cyhoeddwyd canllawiau ar drafod hunanladdiad ym mis Medi 2019 ac fe'u dosbarthwyd i bob ysgol. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu cynigion ar gyfer adolygu ymwybyddiaeth mewn ysgolion ac maent yn ystyried pa gymorth pellach sydd ei angen yn y maes.

 

Mae'r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiadau Amser Real yng Nghymru, a lansiwyd ym mis Ebrill 2022, yn parhau i ddarparu gwybodaeth hanfodol er mwyn helpu i atgyfnerthu ein gwaith ataliol, i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael yn gyflym ac i nodi tueddiadau neu glystyrau.

 

Gwnaethom lansio ein dogfen ymgynghori ar ganllawiau drafft 'Ymateb i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth hunanladdiad neu'r rhai mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt yng Nghymru' ar 28 Hydref 2022.  Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 20 Ionawr 2023 a chafwyd 38 o ymatebion. Mae swyddogion yn edrych dros yr ymatebion ar hyn o bryd.

 

Caiff y canllawiau eu hategu gan Wasanaeth Cyswllt newydd ar gyfer Profedigaethau Hunanladdiad yn ddiweddarach eleni. Bydd y Gwasanaeth yn anelu at sicrhau y caiff cymorth ei gynnig mewn ffordd gyson, amserol a rhagweithiol i bobl y mae marwolaethau sydyn annisgwyl neu lle yr amheuir hunanladdiad wedi effeithio arnynt.

 

Fel rhan o adolygiad o'n canllawiau cyhoeddedig ar ymwybyddiaeth o hunanladdiad a hunan-niwed mewn ysgolion (2009), mae swyddogion wrthi'n trefnu digwyddiad a gwaith ymchwil arall â ffocws penodol er mwyn cael gwybod barn addysgwyr o ran sut i roi dulliau cyfathrebu diogel ar waith mewn perthynas ag atal hunanladdiad a hunan-niwed ac ôl-ymyrraeth mewn lleoliadau addysgol.  Bydd hyn yn llywio gwaith ymchwil er mwyn diweddaru'r canllawiau i ysgolion, a bydd yn helpu i nodi pa gymorth sydd ei angen ar ysgolion pan fyddant yn dod ar draws achosion o hunanladdiad a hunan-niwed yn yr ystafell ddosbarth.

 

 

14

 

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn mynd ati i hyrwyddo argaeledd yr adnodd Cymorth wrth Law Cymru. Dylai hyn gynnwys ymgysylltu’n rhagweithiol â grwpiau cymorth y trydydd sector a sicrhau bod staff rheng flaen, yn enwedig gwasanaethau brys, sydd â chysylltiad â’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, nid yn unig yn llwyr ymwybodol o Cymorth wrth Law Cymru ond, yn hollbwysig, yn gallu cael gafael ar gopïau o’r adnodd fel y gellir ei ddosbarthu i’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth ar yr adeg y mae ei angen arnynt. Gan fod yr adnodd hwn eisoes ar gael, dylid rhoi hyn ar waith o fewn 3 mis

Bydd y cyflenwr digidol sy'n datblygu'r hwb hyfforddi yn helpu i ddatblygu fersiwn ddigidol o Cymorth wrth Law, a fydd yn cynnig cyfle i adolygu'r cynnwys, diweddaru'r cyfeiriadau at wasanaethau ac adnoddau yng Nghymru, ac ystyried ffyrdd eraill o sicrhau bod y cynnwys ar gael.  Bydd hyn ar gael yn ystod hydref 2022.

 

Yn ystod y cyfnod datblygu, caiff ‘cerdyn busnes’ â Chod QR i'r fersiwn gyfredol ar wefan Dewis Cymru ei argraffu i'w roi i ymatebwyr rheng flaen ledled Cymru.

 

Gall yr un Cod QR dywys pobl i'r fersiwn ddigidol newydd pan fydd ar gael.

Mae'r Cydgysylltwyr Hunanladdiad a Hunan-niwed Cenedlaethol a Rhanbarthol wedi creu cod QR er mwyn helpu timau lleol a gweithwyr rheng flaen i gael gafael ar yr adnoddau Cymorth wrth Law Cymru ar Dewis Cymru yn hawdd yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Lanlwythwyd y ddogfen hefyd erbyn hyn i blatfform digidol Tudalennau Cymorth wrth Law – GIG SSHP.  

 

Yn ogystal, fel y nodwyd yn Argymhelliad 13, caiff ein canllawiau drafft ‘Ymateb i bobl sydd wedi dioddef profedigaeth hunanladdiad neu'r rhai mae hunanladdiad wedi effeithio arnynt yng Nghymru’ eu hategu gan Wasanaeth Cyswllt newydd ar gyfer Profedigaethau Hunanladdiad yn ddiweddarach eleni.  Bydd y Gwasanaeth yn anelu at sicrhau y caiff cymorth ei gynnig mewn ffordd gyson, amserol a rhagweithiol i bobl y mae marwolaethau sydyn annisgwyl neu lle yr amheuir hunanladdiad wedi effeithio arnynt.

 

 

 

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau.

15

 

 

Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru, fel rhan o lwybr ôl-ymyrraeth Cymru gyfan, roi ystyriaeth ddwys i ddarparu cyllid ar gyfer grwpiau cymorth i’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, fel bod pobl ledled Cymru yn gallu cael cymorth y mae ei ddirfawr angen. Credwn y gall grwpiau o’r fath gyflawni rôl allweddol o ran cefnogi iechyd meddwl a lles meddyliol y rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Gallai hyn yn ei dro arwain at lai o alw am wasanaethau'r GIG.

Gweler y wybodaeth am ‘Wasanaeth Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer Profedigaethau’ yn argymhelliad 13. Is this correct – did we say this last time.

Gweler y wybodaeth am ‘Wasanaeth Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer Profedigaethau’ yn argymhelliad 13.

17

 

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr y GIG yng Nghymru i sicrhau bod pob cyflogai sydd wedi ymdrin ag achosion o hunanladdiad/ymgais i gyflawni hunanladdiad yn gallu cael gafael ar gymorth priodol

Rydym yn disgwyl i bob bwrdd iechyd roi cymorth priodol i bob aelod o staff yn dilyn digwyddiadau trawmatig.

 

Mae Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol wedi cael ei ailenwi'n ‘Canopi’ ac mae'n rhoi cymorth iechyd meddwl i staff iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer straen wedi trawma.

 

Mae'r gwaith hwn yn waith parhaus, ac mae'r Cydgysylltydd Cenedlaethol yn cynnal trafodaethau â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ynghylch rheoli trawma mechnïol, ond hefyd ynghylch sut y gallwn baratoi staff ar gyfer cwestau, er enghraifft.

 

Rydym hefyd yn cyfeirio unigolion at yr adnodd First Hand Hafan – First Hand (first-hand.org.uk) sy'n helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad unigolyn nad oeddent yn ei adnabod.

 

 

 

 

Mae'r Cydgysylltydd Hunanladdiad a Hunan-niwed Cenedlaethol wedi cysylltu â Canopi ac wedi gwneud cyflwyniad fel rhan o'i symposiwm cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd gwaith ymgysylltu pellach yn parhau i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth a'r wybodaeth sydd ar gael ar atal hunanladdiad a hunan-niwed.

 

 

Rydym yn parhau i ddisgwyl i bob bwrdd iechyd roi cymorth priodol i bob aelod o staff yn dilyn digwyddiadau trawmatig.

 

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau.

 

 

18

 

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod hunanladdiad ymhlith dynion fel blaenoriaeth genedlaethol ac yn dyrannu cyllid priodol i adnabod a gweithredu dulliau newydd o leihau’r stigma sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl er mwyn annog dynion i siarad amdano a cheisio cymorth. Dylai hyn gynnwys cyfle i gyflwyno prosiectau presennol yn ehangach

Mae atal hunanladdiad yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a sefydlwyd Grŵp Trawslywodraethol newydd i atgyfnerthu'r dull gweithredu. Rydym hefyd wedi ymrwymo cyllid ychwanegol er mwyn atal hunanladdiad yn 2022-23.

 

Yn ddiweddar, sefydlwyd y system Gwyliadwriaeth Hunanladdiadau Amser Real gennym yng Nghymru. Bydd y system hon yn darparu mynediad mwy amserol i wybodaeth am bob achos tebygol o hunanladdiad (gan gynnwys hunanladdiadau ymhlith dynion) er mwyn nodi cyfleoedd atal a sicrhau y caiff cymorth priodol ei roi.

 

Fel rhan o'n rhaglen i adolygu a datblygu strategaeth olynol i Beth am Siarad â Fi, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac yn adolygu'r dystiolaeth er mwyn sicrhau bod camau gweithredu newydd yn seiliedig ar dystiolaeth. O ystyried cyffredinrwydd achosion o hunanladdiad ymhlith dynion canol oed, byddem yn disgwyl i hynny fod yn faes ffocws allweddol.

 

Rydym hefyd yn gweithio gyda'n Cydgysylltydd Hunanladdiad Cenedlaethol i gytuno ar raglen waith er mwyn adolygu tystiolaeth rhaglenni ac ymyriadau atal hunanladdiad sy'n canolbwyntio ar ddynion canol oed.

 

Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o drefn ‘busnes fel arfer’.

Mae atal hunanladdiadau yn parhau'n flaenoriaeth a rhoddwyd cyllid ychwanegol i atal hunanladdiadau yn 2022-23 i'r rhaglen ar sail gylchol.

 

Bydd y System Gwyliadwriaeth Hunanladdiadau Amser Real yng Nghymru, a lansiwyd ym mis Ebrill 2022, yn parhau i ddarparu gwybodaeth hanfodol er mwyn helpu i atgyfnerthu ein gwaith ataliol, i wneud yn siŵr bod cymorth ar gael yn gyflym ac i nodi tueddiadau neu glystyrau.

 

Yn unol â'r diweddariad blaenorol, fel rhan o'n rhaglen i adolygu a datblygu strategaeth olynol i Beth am Siarad â Fi, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol ac yn adolygu'r dystiolaeth er mwyn sicrhau bod camau gweithredu newydd yn seiliedig ar dystiolaeth. O ystyried cyffredinrwydd achosion o hunanladdiad ymhlith dynion canol oed, byddem yn disgwyl i hynny fod yn faes ffocws allweddol.

 

Er mwyn sicrhau bod y dull gweithredu wedi'i dargedu, byddwn yn dadansoddi data'r SYG a data o'r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiadau Amser Real er mwyn nodi grwpiau sy'n wynebu risg.

 

Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o drefn ‘busnes fel arfer’ a thrwy ddatblygu strategaethau newydd.

 

 

 

19

 

 

Rydym yn cymeradwyo argymhelliad yr adolygiad canol cyfnod o Beth am Siarad â Fi y dylai gweithredu canllawiau NICE ar hunan-niweidio fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dylid gweithredu hyn o fewn 6 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn

Cynhaliwyd gweithdy ym mis Chwefror 2022 i godi proffil canllawiau newydd NICE ar gyfer asesu a rheoli achosion o hunan-niwed a oedd yn destun ymgynghoriad ar y pryd.

 

Disgwylir i'r canllawiau gael eu cyhoeddi'n ddiweddarach eleni a chynhelir gweithdy arall bryd hynny i'r rheini a gaiff eu nodi fel asiantaethau allweddol ar gyfer rhoi'r canllawiau ar waith, er mwyn ystyried cyfleoedd a rhwystrau ac er mwyn llywio sut y byddwn yn helpu gweithwyr rheng flaen i weithio yn unol â'r canllawiau.

 

Cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig NICE (asesu a rheoli hunan-niwed a'i atal rhag ailddigwydd ymhlith plant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi hunan-niweidio) ym mis Medi 2022. Cynhaliwyd gweithdy ar y canllawiau fel rhan o'r Gynhadledd Genedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed ar 2 Mawrth 2023 ac roedd yr Athro Nav Kapoor a oedd yn aelod o bwyllgor NICE yn bresennol yn y gweithdy hwnnw.

 

Caiff prif themâu'r gynhadledd eu rhannu ar yr hwb digidol ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru.

 

Mae'r canllawiau diwygiedig wedi'u hanelu at weithwyr proffesiynol y tu hwnt i'r gwasanaeth iechyd neu faes iechyd meddwl (e.e. staff mewn lleoliadau addysg, sefydliadau'r trydydd sector a'r system cyfiawnder troseddol) ac mae angen rhagor o waith er mwyn penderfynu sut y gellir sicrhau bod llwybrau amlasiantaeth ar gyfer pobl y mae achosion o hunan-niwed wedi effeithio arnynt yn cydymffurfio â chanllawiau NICE.

 

24

 

 

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod yr argymhellion yn Cadernid Meddwl gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael eu rhoi ar waith er mwyn gwella a diogelu iechyd a lles meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru. O ran hunanladdiad yn benodol, rydym yn argymell y dylai’r argymhelliad yn Cadernid Meddwl ynghylch canllawiau i ysgolion (argymhelliad 16 yn yr adroddiad) gael ei roi ar waith fel un o’r blaenoriaethau pennaf: Bod Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â hunanladdiad yn benodol, yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol:

▪ i ddarparu, o fewn tri mis i ddyddiad cyhoeddi’r adroddiad hwn, ganllawiau i ysgolion ynghylch siarad am hunanladdiad a hunan-niweidio, i chwalu’r syniad y bydd unrhyw drafodaeth yn arwain at ymateb ‘heintus’;

▪ i roi blaenoriaeth i ddarparu canllawiau i ysgolion lle bu hunanladdiad neu amheuaeth o hunanladdiad; ac

▪ i sicrhau bod hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol, gan gynnwys sut i siarad am hunanladdiad, yn rhan o hyfforddiant cychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus, fel bod yr holl athrawon yn gallu siarad am hynny

Cyflwynir adroddiadau ar weithgareddau pellach mewn ymateb i'r cam gweithredu hwn fel rhan o ddiweddariadau yn erbyn argymhellion Cadernid Meddwl.

Cyflwynir adroddiadau ar weithgareddau pellach mewn ymateb i'r cam gweithredu hwn fel rhan o ddiweddariadau yn erbyn argymhellion Cadernid Meddwl.

31

Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru / cyrff cyhoeddus eraill (BILlau / ALlau) yn trefnu bod cyllid penodol ar gael ar gyfer atal hunanladdiad i sicrhau ei fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol i ganfod faint o gyllid sydd ei angen i sicrhau’r cynaliadwyedd hwn, a chlustnodi’r swm priodol

Sefydlwyd Grŵp Strategol Trawslywodraethol newydd ar Atal Hunanladdiad er mwyn atgyfnerthu trefniadau rheoli rhaglen y rhaglen waith atal hunanladdiad. Bydd hyn yn cynnwys annog gwaith ym mhob rhan o'r Llywodraeth a blaenoriaethu buddsoddiadau er mwyn cefnogi'r dull gweithredu hwn.

 

Dyrannwyd cyllid cylchol ychwanegol i'r rhaglen waith atal hunanladdiad yn 2022/23.

Yn arbennig, bydd y cyllid newydd yn cefnogi'r System Gwyliadwriaeth Hunanladdiadau Amser Real newydd yng Nghymru a lansiwyd ym mis Ebrill 2022 ac yn gwella cymorth profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.

 

Yn ogystal, mae'r broses ehangach o drawsnewid gwasanaethau yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad – er enghraifft, y gwaith i wella gofal argyfwng a'r trefniadau ar gyfer sefydlu pwyntiau cyswllt unigol ar gyfer iechyd meddwl fel rhan o'r gwasanaeth 111.

 

 

Mae gwerthusiad allanol yn cael ei gynnal o Beth am Siarad â Fi ar hyn o bryd a bydd canfyddiadau'r gwerthusiad hwnnw yn llywio unrhyw gamau nesaf priodol.

 

 

Mae'r cyllid ychwanegol a chylchol ar gyfer atal hunanladdiad wedi atgyfnerthu'r seilwaith yng Nghymru yn sylweddol. Mae hyn yn cynnwys y Cydgysylltydd Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed a'r Cydgysylltwyr Rhanbarthol, sefydlu System Gwyliadwriaeth Amser Real sy'n cynnwys adnoddau dadansoddol a'r Gwasanaeth Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer Teuluoedd sydd wedi wynebu Profedigaeth o ganlyniad i Hunanladdiad a gaiff ei gomisiynu'n fuan. 

 

Bydd hyn yn sicrhau bod adnoddau penodedig a sefydlogrwydd wrth ymateb i achosion o hunanladdiad a hunan-niwed yn y dyfodol.

 

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gau.